Products For :
  Public Libraries

 E-newsletters provide the latest product information, industry news and exclusive offers!  
Access Wales & U.K. Newspapers (Welsh)

Mynediad hawdd at newyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Overview
  • Quick Facts
Untitled Document

Mae Mynediad at Bapurau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi'i gynllunio'n benodol ar gyferllyfrgelloedd yng Nghymru, ac wrth gynnigteitlau poblogaidd o Gymru ei hun, mae'n sicrhaumynediad at ymdriniaeth fanwl ar faterion adigwyddiadau lleol a rhanbarthol. Mae teitlauadnabyddus o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddonac Iwerddon hefyd wedi'u cynnwys, gan ehanguymhellach gwmpas y dull ymchwil hwn.

Newyddion Cymru
Mae'r casgliad hwn o fwy nag 20 o bapurau newydd Cymreig yn cynnig teitlau dyddiolac wythnosol sydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, gan gynnwys rhifyn Gogledd Cymru o'rDaily Post, yn ogystal â'r Western Mail a'r South Wales Evening Post. Mae'r erthyglaunewyddion sydd ynddynt yn rhoi sylw manwl i fusnesau, llywodraeth, chwaraeon,gwleidyddiaeth, y celfyddydau, diwylliant, cyllid, iechyd, gwyddoniaeth, addysg a mwy —a hynny o drefi mawr a bach, fel ei gilydd. Gall hysbysiadau e-bost bob dydd roi gwybodi ddefnyddwyr am y datblygiadau diweddaraf yn llywodraeth y Cynulliad, newyddionffermio, digwyddiadau rygbi a chriced a llawer mwy. Hefyd wedi'u cynnwys mae erthyglauadolygol - sy'n ddelfrydol ar gyfer cymharu materion a digwyddiadau yn y byd sydd ohoniâ newyddion y gorffennol.

Newyddion y Deyrnas Unedig
Mae'r grwp hwn o dros 350 o bapurau newydd yn darparu sylw ac ymdriniaeth fanwlo faterion a digwyddiadau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Caiff y papurau trymiona'r rhai ysgafnach o bwys cen dlaethol eu hategu gan restr o bapurau newydd dyddiolac wythnosol poblogaidd, gan gynnwys The Times (1985 ymlaen), Financial Times, Economist, The Guardian, ac The Scotsman. Mae'r casgliad cyfoethog hwn yn sicrhau foddarllenwyr ac ymchwilwyr yn cael gwybod y newyddion lleol a chenedlaethol diweddaraf,yn ogystal â datblygiadau mewn gwledydd cyfagos sy'n effeithio ar fywyd yng Nghymru.

Dewisiadau chwilio pwerus
Caiff Mynediad at Bapurau Cymru a'r Deyrnas Unedig ei ddiweddaru bob dydd, ac mae'n cynnig miliynau ar filiynau o erthyglau papurau newydd cyfredol a rhai archif er mwyn i ymchwilwyr eu defnyddio i ddarganfod union leoliad ffynonellau, cymharu agweddau ac olrhain pynciau yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Gall defnyddwyr fynd ati i chwilio'n gyflym ac yn hawdd drwy naill ai un papur newydd o Gymru neu bapurau Cymru a'r DU ar yr un pryd. Mae modd creu chwiliadau pwrpasol a'u cadw i'w defnyddio yn y dyfodol neu eu ffurfweddu ar gyfer hysbysiadau e-bost dyddiol.

­
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â NewsBank, inc. drwy ffonio 0800 028 5310 neu anfon e-bost at custservice@newsbank.com.











Gofyn am Wybodaeth
 

agraffu’r dudalen hon
e-bostio’r dudalen hon
Lawrlwytho PDF
Tiwtorial
Canllawiau Defnyddwyr
Canllaw cyfeirio cyflym